Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi seinio rhybudd ynghylch pwerau treth incwm sydd yn dod i Gymru.
Gall Llywodraeth Cymru osod hanner y dreth incwm o Ebrill 2019 ymlaen.
Mae Llywodraeth yr Alban newydd gyhoeddi eu cynlluniau eu hunain, a bwriada greu trothwyau newydd er mwyn cyflwyno toriadau treth i’r rhan fwyaf o drethdalwyr, gyda’r rhai sy’n ennill mwy yn talu mymryn yn fwy.
Fodd bynnag, mae Plaid Cymru yn rhybuddio na fydd Cymru yn cael y pwerau i greu trothwyau newydd.
Gall Cymru amrywio trethi yn y tri band presennol yn unig. Mae hyn yn golygu mai cyfyngedig yw’r sgôp ar gyfer cynhyrchu refeniw, ac y byddai toriadau treth yn llawer mwy costus i gyllideb Cymru nac yn yr Alban.
Bydd Ms Wood yn ysgrifennu at y Prif Weinidog ac at Lywodraeth y DG i alw am drafodaethau ar ehangu a gwella’r pwerau treth incwm fydd yn dod i Gymru erbyn 2019.
Meddai Leanne Wood: “Mae Plaid Cymru eisiau trethi teg i ddinasyddion Cymru. Nid yw San Steffan yn gweithio i Gymru, felly rydym eisiau gwneud ein penderfyniadau ein hunain dros dreth incwm yma.
“Un ffordd o wneud hyn yw creu trothwyau newydd, sy’n galluogi llywodraethau i fod yn hyblyg.
“Ond mae’r pwerau sy’n cael eu trosglwyddo i Gymru yn gyfyngedig, ac nid oes modd i ni greu trothwyau newydd. Byddwn wedi ein clymu wrth drothwyau Llywodraeth y DG nad ydynt yn adlewyrchu anghenion Cymru.
“Mae unrhyw doriad treth yn ddrud ar wasanaethau cyhoeddus. A gall unrhyw godiad treth godi arian yn unig os yw’n cael ei gymhwyso i weithwyr ar gyflogau is.
“Mae hyn yn annheg, yn anhyblyg ac yn aneffeithiol, ac y mae’n golygu y gall trethdalwyr Cymru fod ar eu colled.
“Rwyf eisiau seinio rhybudd ar hyn fel y gall arweinwyr y pleidiau Cymreig godi llais. Mae angen i ni ofyn i Lywodraeth y DG am drafodaethau cyn gynted ag sydd modd, er mwyn edrych ar hyn eto.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter