“Heddiw, mae’r byd yn nodi Diwrnod Coffáu’r Holocost wrth i’r flwyddyn agor mewn awyrgylch o ansicrwydd ac ymraniadau i lawer.
“Rydym yn cofio’r trychineb a ddioddefodd y bobl Iddewig, a laddwyd yn eu miliynau mewn modd systemaidd gan y Natsïaid.
“Yr ydym yn cydnabod ymhellach dioddefwyr eraill ffasgaeth, gan gynnwys pobl ag anableddau, Sipsiwn, pobl o’r grefydd neu’r duedd rywiol ‘anghywir’, a charcharorion gwleidyddol a lofruddiwyd yn unig oherwydd eu credoau.
“Hefyd, da yw cofio’r miliynau di-rif a ddioddefodd farwolaeth a niwed mewn mannau eraill yn y byd, gan gynnwys yr esiamplau diweddar yn y Dwyrain Canol.
“Ers yr Ail Ryfel Byd, sefydlwyd strwythurau rhyngwladol gyda’r bwriad o leihau’r perygl o wrthdaro pellach yn Ewrop. Ond mae Ewrop yn awr yn fwy rhanedig nag y bu ers y Rhyfel Oer.
“Gwelsom hefyd gasineb ac anoddefgarwch yn ymddangos ledled y byd. Rhaid i ni oll fod yn wyliadwrus ac yn barod i weithio i atal y rhethreg honno rhag paratoi’r ffordd am drais gwleidyddol.
“Ar yr un pryd, mae cymunedau Cymru yn dal i gyd-fyw. Ar Ddiwrnod Coffáu’r Holocost, y gwrthwynebiad cryfaf y gallwn ddangos yw mynegi undod gyda’n gilydd, i uno yn erbyn unrhyw ymosodiad, o ble bynnag y daw, ar leiafrifoedd, a byw mewn rhyddid a chytgord ynghyd fel dinasyddion Cymru.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter