Mae AC Cwm Rhondda wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy dros rieni sy'n cael trafferth i gwrdd â chostau'n ymwneud ag addysg eu plant.
Gofynnodd Leanne i Weinidog Addysg y Llywodraeth Lafur i ddangos "arweiniad' a 'gwir uchelgais' i helpu teuluoedd..
Deilliodd cwestiwn Ms. Wood mewn sesiwn lawn o ofid undebau athrawon a Chomisiynydd Plant Cymru wrth iddynt nodi'r problemau mae diffyg ariannu addysg yn ei achosi i deuluoedd tlawd.
Dywedodd, "Yng ngeiriau'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau, mae 'argyfwng ariannu dybryd' mewn ysgolion 'sy'n cael effaith niweidiol ar bobl ifanc.'
Dyna eu hunion eiriau. Mae hyn yn cyd-ddigwydd ag adroddiad gan y Comisiynydd Plant, Sally Holland, yr wythnos diwethaf a ddywedodd, 'Mae galwadau am arian yn cyrraedd teuluoedd o bob cyfeiriad a'r plant sy'n talu'r pris pan na all eu rhieni gwrdd â'r gost.
'Os ydym o ddifrif am sicrhau chwarae teg gan roi cyfle cyfartal i bob plentyn ddysgu a thyfu, mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos gwir uchelgais ac arweiniad trwy helpu'r miloedd o deuluoedd ar draws Cymru sy'n wirioneddol o dan bwysau.'
'Rwyf wedi codi trothwy prydau ysgol gyda chi ar sawl achlysur. Ydych chi'n derbyn y darlun a geir yn y ddau adroddiad diduedd ac arbenigol hyn?
"Os ydych, pryd y gallwn ni ddisgwyl gweld gwir uchelgais ac arweiniad gan y Llywodraeth Lafur hwn i helpu teuluoedd mewn adfyd a sicrhau bod ysgolion dan bwysau yn derbyn yr arian angenrheidiol i gau'r bwlch i'w galluogi i gynnig gwasanaethau addysg o safon i'n plant."
Wrth ateb, dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams ei bod yn 'cydnabod' yr heriau a nodir gan y comisiynydd plant yn ei hadroddiad ac y bydd peth arian yn cael ei neulltuo ar gyfer rhieni sydd mewn trafferth.
Os ydych chi am gefnogi Leanne a Phlaid Cymru, cliciwch ar y ddolen ganlynol.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter