Mae Leanne Wood yn apelio am gyfraniadau bwyd i fwydo pobl digartref dros gyfnod y Nadolig eleni.
Mae’r AC dros y Rhondda wedi clustnodi ei swyddfa etholaeth fel man casglu ar gyfer bwydydd cadw fel rhan o gynllun yr elusen Adref.
Bydd y cyfraniadau – a all gynnwys bwydydd tun, jam, te, coffi, siwgr, bisgedi, danteithion y Nadolig, creision a deunyddiau hylendid personol i fenywod a dynion – yn mynd tuag at gewyll a gaiff eu dosbarthu mewn da bryd i’r Nadolig. Bydd swyddfa Leanne yn 68 Heol Pontypridd, y Porth yn derbyn cyfraniadau nes dydd Iau Rhagfyr 13eg.
Mae Adref wedi bod yn gweithio i daclo digartrefedd yng nghymoedd y de ers ei sefydlu ym 1990. Dyma’r drydedd flwyddyn o’r bron i Leanne ymuno yn yr apêl cewyll.
Dywedodd: “Gall y Nadolig fod yn amser arbennig i nifer o deuluoedd ond gall hefyd fod yn adeg anodd ac unig. Mae hyn yn arbennig o wir am y rheiny sy’n ddigartref ac yn ei chael hi’n anodd i fforddio eitemau sylfaenol.
“Mae Apêl Cewyll Nadolig Adref yn syniad gwych sy’n galluogi pobl i gyfrannu eitemau yn uniongyrchol i’r rheiny sydd fwyaf anghenus.
“Mae trigolion y Rhondda wedi ymateb yn arwrol i apeliadau’r gorffennol. Dwi’n gobeithio y cawn yr un ymateb eleni. Mae croeso i bob cyfraniad – boed fawr neu fach. Diolch yn fawr.”
- Cyfeiriad swyddfa Leanne yw 68 Heol Pontypridd, y Porth CF39 9PL.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter