Mae AC y Rhondda Leanne Wood wedi ymgymryd â swyddogaeth Hyrwyddwr Rhywogaeth i Gacynen y Llus.
Cyfarfu arweinydd Plaid Cymru, sy’n byw ym Mhenygraig, â disgyblion o Ysgol Gynradd Llwynypia i chwilio am y rhywogaeth yn ystod taith maes i Barc Gwledig Cwm Clydach. Gyda hwy, yr oedd cynrychiolwyr Ymddiriedolaeth Cadwraeth y Cacwn a’r Fenter Bioamrywiaeth Gwastraff Gweithfeydd Glo, yn y gobaith o ddod o hyd i Gacynen y Llus.
Mae Cacynen y Llus, sydd yn un o bedwar rhywogaeth ar hugain o gacwn yn y DG, yn rhywogaeth sy’n perthyn i gynefinoedd yr ucheldir a rhostiroedd, ond fe’i gwelwyd yn helaeth ar draws meysydd glo Cymru, ac y mae’n ffynnu ar y cynefinoedd sydd yn gyfoethog mewn blodau ac a ddatblygodd ar hen safleoedd gwastraff gweithfeydd glo.
Er y gwelwyd llawer math arall o wenyn a chacwn yn ystod yr ymweliad, ni chafwyd cip ar Gacynen y Llus.
Wrth siarad am ei swyddogaeth newydd, meddai Leanne Wood:
“Rwy’n falch o fod yn Hyrwyddwr Rhywogaeth i Gacynen y Llus. Mae fy rhywogaeth yn brin yn y wlad hon, ond mae’n ffynnu yn f’etholaeth i, y Rhondda, diolch i dirwedd arbennig a chynefinoedd pwysig yn yr ardal.
“Mae angen llais i fioamrywiaeth, ac y mae menter yr Hyrwyddwyr Rhywogaeth yn helpu i roi’r llais hwnnw trwy dynnu sylw at y rhywogaethau prin hyn sydd dan fygythiad.
"Mae Cymru wedi cytuno â’r targedau bioamrywiaeth rhyngwladol i atal colli bioamrywiaeth erbyn 2020. Dengys adroddiad Sefyllfa Byd Natur pam fod angen i ni weithredu ar frys i atal colli bioamrywiaeth.”
Mae menter Hyrwyddwyr Rhywogaeth Cyswllt Amgylcheddol Cymru (WEL) yn gofyn i Aelodau Cynulliad roi cefnogaeth wleidyddol i warchod bywyd gwyllt arbennig Cymru sydd dan fygythiad trwy ddod yn ‘Hyrwyddwyr Rhywogaeth’.
Nod y prosiect yw tynnu sylw at amrywiaeth rhyfeddol natur yng Nghymru. Bydd gwaith yr Hyrwyddwyr Rhywogaeth yn bwysig o ran sicrhau bod Cymru yn cwrdd â’r targed rhyngwladol dan y Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol i atal colli bioamrywiaeth erbyn 2020.
Mae Menter yr Hyrwyddwyr Rhywogaeth yn cael ei chefnogi gan fudiadau sy’n aelodau o’r WEL. Mae Ymddiriedolaeth Cadwraeth y Cacwn yn ymwneud â gweithio gyda’r ddau Hyrwyddwr Rhywogaeth sydd yn hyrwyddo rhywogaethau o gacwn.
Meddai Sinead Lynch, Swyddog Cadwraeth yng Nghymru: “Mae hon yn fenter wych sydd yn rhoi llais yn y Senedd i rywogaethau prin sydd dan fygythiad, a thrwy hynny yn rhoi mwy o amlygrwydd i natur mewn trafodaethau gwleidyddol.
“Mae’n wych gweld Cacynen y Llus hardd a charismataidd yn cael ei hyrwyddo gan Leanne Wood.”
Trwy gytuno i fod yn Hyrwyddwr Rhywogaeth, mae Ms. Wood nid yn unig yn helpu gyda chadwraeth Cacynen y Llus, a’r manteision pendant sy’n deillio o hynny, ond hefyd yr ysbrydoliaeth, y rhyfeddod aruthrol sydd ym myd natur i’n trawsnewid ni oll.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter