Yr oedd Leanne Wood yn rhan o gyflwyno’n swyddogol biano traws bach a gaiff ei ddefnyddio i ddifyrru cleifion mewn ysbyty yn y Rhondda.
Gwnaeth Aelod Senedd y Rhondda apêl ar y cyfryngau cymdeithasol wedi gweld fod nyrs yn Ysbyty Cwm Rhondda - Nikkita Williams - eisiau piano ar gyfer therapi cerdd i gleifion.
Gwelwyd yr apêl gan athrawes yn Ysgol Gymuned Ferndale lle’r oedd hen biano nad oedd mo’i angen mwyach. Ar ôl trefnu mater bychan cludo’r offeryn mawr ar draws y Fach i Lwynypia, dadorchuddiwyd y piano o’r diwedd.
Meddai Leanne: “Yr oeddwn wrth fy modd yn gallu bod yn rhan o’r ymdrech i gael piano i gleifion Ysbyty Cwm Rhondda. Mae’r nyrsys yn dweud wrthyf y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r cleifion yno gan y gall cerddoriaeth lonni ysbryd pobl mewn ffordd na all dim arall wneud.
“Yr oedd y ffordd yr ymatebodd y gymuned i’r apêl hon yn rhyfeddol. Cynigiwyd tri phiano i ni ymhen ychydig oriau. Cynigiodd un busnes lleol brynu un ail-law ar ôl gweld yr apêl.
“Dewisodd yr ysbyty biano traws bach o’r ysgol, ac y maent wedi gwneud dewis ardderchog.”
Ychwanegodd Leanne: “Yr oedd cael y piano i’r ysbyty yn ymdrech tîm mewn gwirionedd, ac fe ddangosodd y gorau sydd gan y Rhondda a’r cyffiniau i’w gynnig.
“Yr oedd yn bleser ei weld a’i glywed yn cael ei ganu yn yr ysbyty yn ystod y dadorchuddio. Yr oedd gweld y pleser ar wynebau’r staff a’r cleifion yn yr ysbyty yn golygu bod yr ymdrech yn werth chweil.
“Chwarae teg i Nikkita Williams a’i chydweithwyr am gyflawni prosiect mor wych.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter