Wrth ymateb i gyhoeddi adroddiad damniol gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru am y system gosbi yng Nghymru, dywedodd Leanne Wood AS - Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Gyfiawnder a Chydraddoldeb: “Mae’r adroddiad cynhwysfawr hwn yn gondemniad damniol o’r ffordd wael y mae Cymru’n cael ei thrin gan y system gyfiawnder a redir gan San Steffan.
“Mae’n dangos fod gennym gyfraddau carcharu uwch a dedfrydau hwy na rhai yn Lloegr. Profwyd hefyd fod ein poblogaeth DLlE yn dioddef yn waeth yn y system gyfiawnder yn ôl nifer o ystadegau.
“Os ydym am roi terfyn ar hiliaeth a chamwahaniaethu, rhaid i hyn ddigwydd ym mhobman. Mae’r dystiolaeth bendant yn yr adroddiad hwn sy’n dangos fod rhywun yn fwy tebygol o gael ei garcharu os ydynt yn groenddu neu o grŵp ethnig lleiafrifol yn awgrymu bod llawer o waith i’w wneud yn y system gyfiawnder i greu’r cydraddoldeb sydd ei angen yn ein cymdeithas.”
Ychwanegodd Leanne: “Fel y dengys yr adroddiad hwn, San Steffan sy’n rhedeg y system gyfiawnder. Rhaid i ni ddwyn y Llywodraeth Dorïaidd hon i gyfrif am y llanast a wnaethant, ond nid yw dwylo Llafur yng Nghymru yn hollol lân chwaith.
“Gallant wneud mwy gyda’r meysydd datganoledig sydd ar ymylon y system gyfiawnder – ac fe ddylent wneud hynny. Mae nifer sylweddol y cyn-garcharorion sy’n gorfod byw ar y stryd wedi cael eu rhyddhau o’r carchar yn rhywbeth y dylai’r Llywodraeth Lafur hon wneud mwy yn ei gylch.
“Dylent fod yn fwy gweithredol hefyd mewn meysydd datganoledig eraill sy’n gysylltiedig â’r system gyfiawnder megis cydraddoldeb, gofal iechyd i droseddwyr, camddefnyddio sylweddau, diogelu plant ac addysg mewn carchardai. Dylai’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru ganfod atebion i’r problemau hyn neu gamu o’r neilltu fis mai nesaf fel y gall llywodraeth arall wneud hynny.”
Dywedodd Nadine Marshall, ymgeisydd Plaid Cymru yn Ne Cymru yn etholiadau CHTh: “Fel y rhagwelais, mae cynnwys yr adroddiad hwn yn adlewyrchiad cywir o system cyfiawnder troseddol yng Nghymru sy’n ddiffygiol o ran atebolrwydd ac yn amlwg yn anghyfartal mewn gwasanaethau priodol a chamwahaniaethu.
“Mae cymunedau yng Nghymru yn cael eu hamddifadu o’r cyfle sylfaenol i fyw’n ddiogel. Ni wnaeth Llywodraethau San Steffan na Chymru fawr ddim cynnydd i ymdrin â’r problemau gwirioneddol a nodwyd yn yr adroddiad hwn a rhai eraill a gomisiynwyd.
“Yn awr yn fwy nac erioed, mae system gyfiawnder gadarn a datganoledig yn hanfodol er mwyn i gymunedau cryf ffynnu.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter