Yn ystod wythnos gyntaf cynllun bwyd newydd a redir gan Aelod Senedd y Rhondda, dosbarthwyd 300 kg o fwyd.
Dosbarthwyd cyfanswm o 72 parsel o fwyd gan Leanne Wood, aelodau ei staff a gwirfoddolwyr fel rhan o gynllun newydd a gynlluniwyd o gwmpas cyfyngiadau Covid-19. Gyda’r parseli, cafodd 154 o bobl eu bwydo, a 53 o’r rhain yn blant.
Cyn i’r coronafeirws gychwyn, yr oedd dau neu dri o gasgliadau bwyd yr wythnos yn cael eu trefnu o swyddfa Leanne yn y Porth ers haf 2019. Yr oedd bwyd dros ben o wahanol archfarchnadoedd yn cael ei gasglu a’i osod allan i bobl ei gasglu o’r swyddfa.
Gan nad yw hyn bellach yn bosib oherwydd yr angen am ymbellhau cymdeithasol, dewisodd Leanne drefnu gwasanaeth o gludo pecynnau bwyd ac apelio am roddion ariannol gan y cyhoedd i dalu am brynu bwyd sydd yn para’n hwy.
Hyd yma, bu’r cynllun yn llwyddiannus iawn, gyda degau o bobl yn cael parseli bwyd a nifer o wirfoddolwyr yn cynnig eu gwasanaeth i’w cludo, gan gynnwys cynghorwyr Plaid Cymru.
Dywedodd Leanne: “Yr oedd yn drueni gorfod rhoi’r gorau i gasgliadau bwyd o’m swyddfa yn gynharach eleni oherwydd Covid-19. Yr oeddem yn dosbarthu llawer o fwyd i bobl oedd yn gwneud defnydd da ohono ac yn arbed arian ar eu bil bwyd wythnosol.
“Doedd dim dewis gennym ond atal y casgliadau bwyd, ac y mae wedi cymryd peth amser a llawer o waith i osod cynllun gwahanol i fyny. Er y bu’n rhaid i ni wneud ymdrech, doedd eistedd yn ôl a gwneud dim ddim yn ddewis oherwydd mae gwir angen am gynllun fel hyn.
“Cawsom ymateb rhyfeddol gan bobl yn gofyn am barseli bwyd a chan bobl oedd yn dod ymlaen i helpu, boed hynny gyda rhoddion o arian neu gynigion i helpu i bacio a chludo’r parseli.
“Mae’r cynllun hwn yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl, ac y mae’r ymateb cadarnhaol gan bobl sy’n derbyn y parseli hyn yn ystod yr wythnos gyntaf wedi gwneud y cyfan yn werth chweil.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter