Bydd teuluoedd Cymreig y mae eu cartrefi wedi dioddef yn sgil y llifogydd mawr yn derbyn help diolch i rodd o £50,000 gan fusnes amlwg.
Mae Trade Centre Wales yn rhoi’r arian i Gronfa Ymgyrch Llifogydd Plaid y Rhondda, a lansiwyd wedi i fwy na 200 o aelwydydd ddioddef yn sgil y stormydd enbyd diweddar.
Mae’r cwmni, gwerthwr ceir ail-law mwyaf Cymru, yn gobeithio y bydd eu gweithred yn symbyliad i fusnesau eraill gefnogi’r achos. Cyfrannwyd degau o filoedd o bunnoedd eisoes trwy roddion gan unigolion hael a digwyddiadau codi arian.
Dywedodd perchennog a chadeirydd Trade Centre Wales Mark Bailey fod y cwmni wedi’u tristáu’n arw gan y difrod a wnaeth y llifogydd i gartrefi a busnesau yn y Rhondda a sefyllfa’r sawl sydd yn awr yn ceisio ail-adeiladu eu bywydau.
“Allen ni ddim sefyll ar y cyrion a gwylio tra bod cymaint o bobl yn cael trafferthion,” meddai Mark.
“Mae’r Rhondda yn gymuned gref a chefnogol ac yr ydym yn falch y gallwn fod yn rhan o ymateb y gymuned i helpu cyfeillion a chymdogion mewn argyfwng.
“Mae gan ein busnes ni gysylltiadau cryf â’r ardal - rwyf i’n dod o’r Cymoedd, mae ein cangen Gogledd Caerdydd yn Abercynon ac, wrth gwrs, mae llawer o bobl o’r Rhondda ymhlith ein cwsmeriaid.
“Gobeithio y bydd y £50,000 yn perswadio busnesau eraill i gefnogi’r gronfa ac yn lliniaru rhywfaint ar y sawl sydd wedi dioddef cymaint trwy’r trychineb hwn.”
Mae trefnwyr Ymgyrch Llifogydd Plaid y Rhondda wedi croesawu’r rhodd
“Fe aiff hyn gryn dipyn o’r ffordd tuag at helpu llawer o bobl sydd wedi eu gadael heb fawr ddim ar ôl y llifogydd,” meddai AC y Rhondda Leanne Wood, sy’n helpu i arwain ymdrechion codi arian.
“Mewn amgylchiadau ofnadwy, rydym wedi gweld y gorau o bobl y Rhondda. Gwelwyd caredigrwydd, haelioni a phobl yn estyn allan i helpu’r rhai oedd mewn angen.
“Mae’n wych derbyn rhodd mor fawr ac mor hael i bobl y Rhondda sydd wedi dioddef mor enbyd yn sgil y llifogydd.
“Rwyf eisiau dweud “diolch yn fawr iawn” o waelod calon i Mark Bailey, sydd â’i wreiddiau yma yn y cymoedd - yn amlwg, mae eisiau cofio’r gwreiddiau hynny a’u cadw’n fyw. Fe aiff ei gyfraniad caredig lawer o’r ffordd i helpu pobl i adfer peth o’r hyn a gollwyd. Diolch, Mark.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter