Mae AC y Rhondda wedi galw am ostyngiad ym mhris tocynnau i deithwyr ar Lein y Cymoedd am eu bod yn gorfod defnyddio hen drenau am gyfnod hwy na’r hyn a addawyd.
Dywedodd Leanne Wood y dylai’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru fod yn uno gyda’u cydweithwyr yn y blaid yng ngogledd Lloegr sydd wedi galw am docynnau rhatach oherwydd bod teithwyr yn teithio ar drenau Pacer – yr un trenau â’r rhai sy’n cael eu defnyddio rhwng Caerdydd a Threherbert.
Gwnaeth Llywodraeth Cymru – sy’n gyfrifol am Drafnidiaeth Cymru a’r fasnachfraint rheilffyrdd newydd – gyhoeddiad syfrdanol yn ddiweddar gan ddatgelu na fyddai’r defnydd o drenau Pacer sy’n yn 40 oed yn dod i ben eleni fel yr addawyd yn wreiddiol.
Mae prinder cronig o gerbydau wedi golygu bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod gofyn caniatâd Llywodraeth y DG am estyniad i ddefnyddio’r Pacers a threnau hŷn fyth a adeiladwyd yn y 1960au.
Yn ystod y sesiwn lawn yr wythnos hon, dywedodd Leanne: “Dyw teithio ar y trenau hyn, sydd wedi hen weld dyddiau gwell, ddim yn brofiad pleserus o gwbl. Rwy’n defnyddio’r trenau hyn drwy’r amser, a gallaf dystio i gwynion rheolaidd am orlenwi, gwasanaethau’n cael eu colli, a threnau’n torri i lawr, sydd yn cael eu gwneud gan lawer iawn o bobl.
“Nawr, rwy’n nodi fod eich cydweithwyr yn y Blaid Lafur – maer Manceinion Fwyaf, Andy Burnham, maer rhanbarthol dinas Sheffield, Dan Jarvis, ac arweinydd Cyngor Dinas Leeds, Judith Blake – oll wedi llofnodi llythyr yn galw ar y cwmni trenau, Northern, i ostwng prisiau tocynnau i deithwyr sydd, fel ni yng Nghymru, yn cael eu gorfodi i deithio ar y trenau Pacer hyn.
“Rwy’n meddwl bod hyn yn syniad gwych. Wnewch chi a’ch cydweithiwr yn y Cabinet sy’n gyfrifol am drafnidiaeth sefyll ochr yn ochr â’ch cydweithwyr yn y blaid a rhoi buddiannau teithwyr cyn elw?
“A fydd modd i ni gael datganiad gan y Gweinidog Trafnidiaeth yn amlinellu faint o ostyngiad y gall teithwyr ddisgwyl ei gael tra’n bod ni’n aros am y gwasanaeth cludiant cyhoeddus sylfaenol yr ydym yn ei haeddu?”
Yn ei hateb, dywedodd y Trefnydd Rebecca Evans AC: “Bydd y cerbydau y mae Leanne Wood yn cyfeirio atynt yn cael eu tynnu o wasanaeth yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Maent yn cael eu cadw ar y rheilffyrdd ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod digon o le ar gael.
“Ac, wrth gwrs, mae cerbydau ar draws y DG gyfan; nid yw hyn yn fater i Gymru yn unig. Ac fe osododd y Prif Weinidog allan hefyd gynigion at y dyfodol o ran gostwng prisiau tocynnau ar draws Cymru hefyd.”
Os hoffech chi gefnogi Leanne a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter