Heno, mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru wedi datgan beirniadaeth chwyrn o'r pleidiau Llundeinig yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru am "wanhau pwerau Cymreig" gan roi sêl bendith i Fesur Ymadael yr UE Llywodraeth y DG.
Wrth siarad yn fuan ar ôl y bleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol ble mai Plaid Cymru oedd yr unig blaid i wrthod caniatâd i'r Mesur Ymadael fydd yn galluogi Llywodraeth San Steffan i ymyrryd yng nghyfrifoldebau'r Senedd, dywedodd Leanne Wood:
"Dyma ddiwrnod trist i ddatganoli Cymreig. Mae Llafur, y Ceidwadwyr ac UKIP wedi uno i'n hatgoffa y byddant wastad yn rhoi San Steffan cyn Cymru.
"Bydd Mesur Ymadael Llywodraeth y DG yn galluogi Whitehall i ymyrryd ym mhwerau'r Cynulliad mewn meysydd allweddol megis yr amgylchedd, amaeth a chymorth gwladwriaethol.
"Fel plaid sy'n gwrthod yr egwyddor y dylai San Steffan dra-arglwyddiaethu dros Gymru, gwrthododd ACau Plaid Cymru roi sêl bendith i'r mesur Brexit hynod niweidiol hwn.
"Heddiw, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwerthu rhan o'n democratiaeth ac ildio i Frexit caled y Ceidwadwyr. Ni fydd Plaid Cymru yn gadael iddynt anghofio hyn am amser hir iawn."
Os ydych chi'n cytuno â Leanne ar hyn, beth am ei chefnogi a Phlaid Cymru trwy ymuno? Gallwch chi wneud hyn trwy glicio'r ddolen hon.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter