Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi cyfres o gynigion uchelgeisiol i greu swyddi a chyfoeth mewn lleoedd fel y cymoedd.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, fod gan dri pholisi newydd ei phlaid y gallu i droi lleoedd fel Cwm Rhondda -ei chartref- yn bwerdy economaidd.
Dywedodd yr Aelod Cynulliad o Benygraig y byddai Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Plaid Cymru yn:
* Cynyddu buddsoddiad mewnol ac yn hybu allforion o Gymru trwy greu asiantaeth hyrwyddo masnach a buddsoddiad annibynnol i Gymru- math o WDA ar gyfer yr 21ain ganrif.
* Rhoi ar waith y rhaglen fuddsoddi fwyaf yn yr isadeiledd a welodd Cymru ers datganoli o dan arweiniad Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol Cymru.
* Helpu busnesau bach i dyfu trwy ostwng graddfeydd trethi busnes a darparu ffynhonnell cyllid iddynt trwy sefydlu Banc Cymru.
Dywedodd Ms Wood, "Mae Cymru wedi bod ar waelod rhestrau cyflogaeth a ffyniant y DU yn rhy hir. Esgeuluswyd llawer o gymunedau - yn arbennig yn y cymoedd - a chollwyd cyfleoedd. Parodd y sefyllfa hon i lawer o bobl adael y cymoedd i chwilio am waith.
"Dyw'r sefyllfa honno ddim yn dderbyniol i fi nac i Blaid Cymru."
Ychwanegodd,"Rydym am wrthdroi'r blynyddoedd o ddirywiad a sicrhau bod y degawd nesaf yn un o dyfiant economaidd i Gymru. Mae gan y cyfuniad hwn o fesurau yr uchelgais, y creadigrwydd a'r hyder angenrheidiol i wella'r economi.
"O gael y cyfle, byddwn yn gweithredu'r mesurau hyn yn llawn gan wneud yr economi'n flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru,"
Os ydych yn rhannu gweledigaeth Leanne am bwerdy economaidd yn y cymoedd, os gwelwch yn dda cliciwch ar y ddolen hon. Diolch.
.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter