Gallai llawer o aelwydydd ag incwm is yn y Rhondda fod yn gymwys i arbed hyd at £250 ar eu biliau dŵr, ac mae Leanne Wood yn annog pobl leol i holi ydyn nhw'n gymwys i fanteisio ar hyn.
Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn cynnig tariff HelpU ar gyfer cwsmeriaid o aelwydydd â chyfanswm incwm blynyddol o £15,000 neu lai
Dywedodd Leanne Wood AC Rhondda: “Mae Dŵr Cymru'n dweud y gallai miloedd o gwsmeriaid elwa ar HelpU - a gallai rhai o'r bobl hyn haneru eu biliau dŵr a charthffosiaeth blynyddol. Y cyfan sydd ei angen i'r bobl gymwys ei wneud yw cysylltu â'r cwmni, a chânt gymorth i newid i'r tariff HelpU.
“Gallai llawer iawn o bobl yn yr etholaeth elwa ar y fenter hon, a hoffwn annog pobl i ystyried a ydynt yn gymwys, ac i gysylltu â'r cwmni ar unwaith os ydyn nhw. Rydyn ni'n gwybod bod biliau dŵr llawer o bobl i gyfrif am fwy na phump y cant o incwm eu haelwyd - ac felly mae hi'n gallu bod yn anodd eu talu.
“Mae arbedion mawr ar gael i bobl ag incwm isel. Os nad ydych chi'n gymwys eich hun, efallai eich bod chi'n adnabod rhywun arall sy'n gymwys. Os felly, lledwch y gair, a rhannwch y wybodaeth werthfawr yma â nhw."
Gallwch gysylltu â Dŵr Cymru Welsh Water ar-lein yn www.dwrcymru.com neu trwy ffonio 0800 052 0145.
Ychwanegodd Leanne fod mwy na 78,000 o gwsmeriaid eisoes yn elwa ar dariffau cymdeithasol Dŵr Cymru ar gyfer biliau dŵr a charthffosiaeth. HelpU yw'r unig dariff cymdeithasol sydd gan y cwmni sy'n llwyr seiliedig ar incwm. Crëwyd y tariff HelpU yn sgil ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru, y Cyngor Defnyddwyr Dŵr a Chartrefi Cymunedol Cymru.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter