Adran Gwaith a Phensiynau, peidiwch a chau'r Ganolfan Rheoli Dyled ym Mhorth
Mae'r ddeiseb yma nawr ar gau.
Diolch o galon i'r cannoedd lofnododd y ddeiseb.
Er bod y ddadl i beidio â chau'r ganolfan ym Mhorth wedi ei cholli, mae'n galondid bod y swyddi wedi aros yn y Rhondda.
Pan glywodd Leanne am y newyddion bod y swyddi yn symud i Donypandy dywedodd:-
“Rwy’n fwy na balch y bu’r ymgyrch ar y cyd rhwng y PCS / a’r gymuned i gadw swyddi’r DWP yn y Rhondda yn llwyddiant, ac y bydd y staff o swyddfa’r Porth yn cael eu hadleoli i Donypandy yn hytrach na chael eu gorfodi i deithio i Gaerffili. Allai’r Rhondda ddim fforddio colli’r swyddi hyn – byddai ein heconomi lleol wedi cael ergyd galed na allai fod wedi ei fforddio. Mae’r penderfyniad heddiw yn unol â dymuniadau’r gweithlu teyrngar fu’n rhoi gwasanaeth eithriadol i’w cyflogwyr a’r bobl y maent yn eu gwasanaethu.
“Fodd bynnag, ledled Cymru, nid yw’r darlun mor gadarnhaol. Yn Llanelli, Aberpennar a’r Pîl, bydd swyddfeydd lleol y DWP yn cael eu cau, gan golli cannoedd o swyddi i’r cymunedau lleol hynny. Penderfyniad wedi ei sbarduno gan agenda llymder y llywodraeth Dorïaidd yw hwn, nid gan anghenion ein cymunedau a’n pobl, ac y mae’n enghraifft arall pam fod Plaid Cymru eisiau gweld datganoli pwerau dros Ganolfannau Gwaith i Gymru fel y gallwn amddiffyn y gwasanaethau hyn rhag y llywodraeth Geidwadol.”
Dyma eiriad y ddeiseb wreiddiol :-
Bydd cau Canolfan Rheoli Dyled Adran Gwaith a Phensiynau ym Mhorth yn cael effaith ddifrifol ar y Rhondda. Cyflogir dros 90 o bobl yn Oldway House. Dyw symud i weithio i Gaerffili, fel awgrymwyd gan AGPh ddim yn opsiwn i nifer fawr ohonyn nhw.
Mae nifer o fusnesau Porth yn dibynnu ar gwsmeriaeth y gweithwyr lleol. Os cytunwch chi gyda ni, y dylai AGPh ail-feddwl a chadw’r Ganolfan Rheoli Dyled, arwyddwch y ddeiseb. Lledaenwch y ddeiseb i’ch cyfeillion a'ch teulu.
Dyma ran o'r llythyr ysgrifennwyd at yr Adran Gwaith a Phensiynau ...