Mae nifer o bobl - gan gynnwys hyfforddwyr gyrru - wedi codi pryderon ynglŷn ag adleoli'r ganolfan brawf DVSA ym Mhontypridd. Rwy'n rhannu pryderon hynny.
Fel rhywun sy'n gyfarwydd iawn â Phontypridd, rwy’n cydnabod gwerth cadw'r ganolfan brawf DVSA yn yr ardal hon. Mewn llythyr at Gareth Llewellyn, prif weithredwr y DVSA, eglurais y byddai'r lleoliad tybiedig newydd yn Llantrisant yn rhoi hyfforddwyr gyrru o’r Rhondda – a’u disgyblion – o dan anfantais.
Ysgrifennais: 'Mae hyfforddwyr gyrru wedi dweud wrthyf fod y traffig trwm ar y ffyrdd rhwng y Rhondda a Llantrisant - safle'r adleoli arfaethedig – yn golygu na fyddai gyrru yn ôl ac ymlaen mewn gwers ddwy awr yn ymarferol.'
Ysgrifennais hefyd fod Pontypridd yn leoliad heb ei ail, gan ychwanegu: "Mae'n cynnig cylchfannau mawr, system un-ffordd a mynediad hawdd i ffordd ddeuol brysur, sef yr A470 ...... fel lleoliad yn darparu ystod eang o brofiadau gyrru, ni all Llantrisant gystadlu.
'Rwy'n poeni am oblygiadau anfon gyrwyr newydd ar ein ffyrdd heb y profiad gyrru eang y gallant ei gael ym Mhontypridd.'
Mewn ymateb, yr wyf yn derbyn y llythyr isod gan Mr Llewellyn. Byddaf yn rhoi gwybod i bobl am unrhyw ddiweddariadau pellach.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter