Mae Leanne Wood wedi ymateb i ddadl frys a alwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch y cytundeb gyda’r DUP.
Wrth siarad yn siambr y Cynulliad, dywedodd arweinydd Plaid Cymru:
“Ddylai pobl yng Nghymru deimlo mwy na rhwystredigaeth gyda’r cytundeb hwn, fe ddylent fod yn ddig.
“Bu Cymru yn wastad yn drydydd yn y ciw y tu ôl i Ogledd Iwerddon a’r Alban o ran pwerau a chyllid.
“Y wlad hon sydd wedi creu’r lleiaf o dwrw.
“Ni fu’n tawelaf a’r mwyaf parchus o holl genhedloedd y DG.
“A chanlyniad hynny fu i ni gael ein gadael ar ôl.”
Galwodd ar i arweinwyr y pleidiau Cymreig dderbyn nad oedd y DG yn gweithio i Gymru, ac i ystyried sut y gellid ‘symud y wlad i fyny’r ysgol’, gan ychwanegu:
“Rhaid i ni fod yn onest ymysg yr holl bleidiau yn y siambr hon – dyw’r Deyrnas Gyfunol ddim yn gweithio drosom.
“Y cam cyntaf yw cyfaddef nad yw’r DG, system San Steffan, yn cyflawni dros Gymru.
“Ei bod yn cosbi Cymru.
“Unwaith i ni gyfaddef hynny, dylem edrych o ddifrif ar y camau nesaf i Gymru, a defnyddio’r holl ddylanwad sydd gennym fel pleidiau gwleidyddol i sicrhau y bydd Cymru’n dringo’n uwch i fyny’r ysgol.”
Os ydych yn cytuno â Leanne a Phlaid Cymru cliciwch ar y ddolen hon os gwelwch yn dda. Diolch.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter