Mae Aelod Senedd y Rhondda wedi erfyn ar wrthwynebwyr gwleidyddol i roi eu gwahaniaethau o’r neilltu er mwyn uno i fynnu ymchwiliad annibynnol i’r llifogydd.
Galwodd Leanne Wood o Blaid Cymru ar ei chyd-Aelodau o’r Senedd i “wneud y peth iawn a rhoi dioddefwyr llifogydd yn gyntaf” yn ystod araith frwd mewn dadl a gychwynnwyd wedi i bron i 6,000 o bobl lofnodi deiseb yn galw am ymchwiliad annibynnol.
Cyflwynwyd y ddeiseb gan Heledd Fychan, un o gynghorwyr Plaid Cymru ym Mhontypridd sydd yn anelu at fod yn AoS nesaf dros Bontypridd.
Gwnaeth y llifogydd ym mis Chwefror eleni ddifrod enbyd i gannoedd o gartrefi a llawer o gymunedau ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf. Yn gynharach yr wythnos hon, cynhyrchodd Plaid Cymru adroddiad oedd yn edrych ar brofiadau’r sawl a ddioddefodd yn sgil y llifogydd. O’r 137 o bobl a ymatebodd, yr oedd pob un yn cefnogi ymchwiliad annibynnol i’r llifogydd.
Yn ystod y ddadl, pleidleisiodd AoS Llafur i ‘nodi’r ddeiseb’ ond gan wneud yn glir yn eu cyfraniadau nad oedd ymchwiliad annibynnol ar eu hagenda hwy.
Yn ei haraith, dywedodd Leanne: “Mae’r sawl sy’n gwrthwynebu ymchwiliad annibynnol yn dadlau y byddai’n cymryd yn rhy hir ac y byddai’n rhy ddrud. Does dim rhaid i’r naill na’r llall fod yn wir.
“Allwch chi ddim rhoi pris ar ddiogelu pobl a’u cartrefi. Allwch chi ddim rhoi pris chwaith ar roi i bobl y tawelwch meddwl fu’n absennol i gymaint ers mis Chwefror eleni.
“Y wraig o Dreorci sydd wedi dioddef un llif ar ôl y llall ac nad yw’n gallu cysgu nawr pan fydd yn bwrw glaw yn y nos. Mae cymaint o storïau fel hyn. Byddai ymchwiliad yn mynd at wraidd achos y llifogydd, heb ffafrio neb.
“Dyma fyddai ein cyfle gorau i ddod o hyd i atebion parhaol. Fydd rhoi plaster ar y briw ddim yn ddigon.
“Rwy’n crefu ar bob Aelod o’r Senedd hon, ond yn enwedig y rhai ohonoch sydd heb fod wedi cefnogi ymchwiliad i’r llifogydd hyd yma. Dyw hi ddim yn rhy hwyr i wneud y peth iawn. Dyw hi ddim yn rhy hwyr i roi’r rhai ddioddefodd yn sgil y llifogydd yn gyntaf. Mae pleidlais dros hyn heddiw yn cryfhau’r achos dros ymchwiliad a fydd yn nodi beth aeth o’i le a pham?
“Gall ymchwiliad weithio allan faint o gyllid sydd ei angen a lle mae angen i ni fuddsoddi mewn amddiffynfeydd llifogydd a mesurau atal llifogydd yn y dyfodol. Gwyddom fod rhagolygon yn dweud y bydd tywydd eithafol yn digwydd yn amlach yn y dyfodol oherwydd yr argyfwng hinsawdd. Rhaid i ni fod yn barod, a’r unig ffordd i wneud yn siŵr ein bod yn barod yw deall beth ddigwyddodd eleni a beth sy’n rhaid ei wneud i unioni pethau.
“Rwy’n crefu arnoch i weithio gyda ni – gweithio i gefnogi ymchwiliad i’r llifogydd heddiw.….nid er fy lles i na lles Plaid Cymru, ond dros y nifer o bobl yn ein cymunedau a ddioddefodd lifogydd eto eleni. Ddylen nhw ddim gorfod mynd trwy’r trawma yna eto.”
Caiff y ddeiseb yn galw am ymchwiliad annibynnol i’r llifogydd yn awr ei hystyried ymhellach yn y Flwyddyn Newydd gan y pwyllgor deisebau.
Os ydych eisiau helpu i ail-ethol Leanne yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf, cliciwch ar y ddolen hon.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter