Wrth ymateb i’r newyddion fod Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Allison Williams ar absenoldeb salwch tymor-hir, dywedodd AC y Rhondda Leanne Wood: “Mae arna’i ofn mai’r cyfan wnaiff prif weithredwr interim newydd fydd papuro dros y craciau a ddatgelwyd gan y sgandal diwedd yn adran y gwasanaethau mamolaeth.
“Ni fydd y problemau endemig sydd wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn cael eu datrys dros nos na thrwy roi un unigolyn yn lle un arall. Mae’n rhy syml, er yn gyfleus, i rai gwleidyddion Llafur awgrymu mai cael prif weithredwr newydd yw’r ateb i bopeth.
“Mae adrannau heb ddigon o staff, morâl isel, cynllunio gweithlu gwael gan un Gweinidog Iechyd Llafur ar ôl y llall, a methiant arbrawf i ganoli ysbytai gan y Llywodraeth Lafur hon oll wedi dod ynghyd i greu’r sefyllfa bresennol.
“Hyd nes y cawn Lywodraeth Cymru sydd yn cydnabod cyfrifoldeb, yn dangos arweiniad ac yn mynd ati i gynnal ymgyrch recriwtio i ymdrin â niferoedd staffio isel, yna ni fydd fawr ddim cynnydd yn cael ei wneud.”
Os ydych chi am gefnogi Leanne a Phlaid Cymru, cliciwch ar y ddolen ganlynol.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter