Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi rhybuddio mai’r unig ffordd i amddiffyn Cymru rhag difrod ffin galed rhwng Cymru a’i chymdogion yw i’r DG aros yn yr Undeb Tollau.
Tynnodd sylw at y ffaith fod ASau Llafur wedi methu ag amddiffyn buddiannau Cymru trwy bleidleisio yn erbyn aelodaeth o’r Undeb Tollau mor ddiweddar â 20 Tachwedd.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood:
“Ateb Plaid Cymru i broblem y ffin yw i’r DG aros yn yr Undeb Tollau. Mae ein ASau yn gyson wedi pleidleisio o blaid hyn yn San Steffan, ond methodd ASau Llafur ag amddiffyn buddiannau Cymru yn y modd maent wedi pleidleisio.
“Yr ydym yn wynebu llywodraeth Dorïaidd wan a rhanedig, ond mae Llafur wedi caniatáu i gonsensws gael ei lunio ynghylch gadael y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau.
“Mae Llafur yn methu â gweithredu fel gwrthblaid swyddogol iawn yn San Steffan ar y mater hwn. Nawr mae’n rhaid iddynt ddod at eu coed a gweithio er budd Cymru.”
Gan adleisio galwadau Leanne Wood, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Brexit yn San Steffan, Hywel Williams AS:
“Yr unig ffordd i osgoi ffin galed ar ynys Iwerddon yw sicrhau bod gogledd Iwerddon yn aros yn yr Undeb Tollau. Fodd bynnag, ni fyddai symud y ffin honno i’r môr rhwng Cymru ac Iwerddon yn gwneud i ffwrdd â’r bygythiad i broses heddwch Iwerddon.
“Yr ateb yw i bedair gwlad y DG aros yn yr Undeb Tollau wedi i ni adael yr UE. Bydd hyn yn sicrhau y bydd pedair gwlad y DG yn parhau i fasnachu nwyddau yn rhydd gyda’i gilydd, yr UE, a’r 53 gwlad arall y mae gennym gytundebau masnach gyda hwy, heb rwystrau ffiniau.
“Rhaid i’r Blaid Lafur roi’r gorau i ymgreinio i Brexitwyr ac uno i gefnogi parhad aelodaeth o’r Undeb Tollau.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter