Rwyf am lofnodi’r ddeiseb yma er mwyn galw ar Crown Carveries i newid enw’r dafarn ‘Lord Tonypandy’.
Bu farw 116 o blant ac 28 oedolyn yn y drychineb, ac mae cyfres o raglenni diweddar i nodi 50 mlynedd ers y drychineb, wedi dangos yn glir bod George Thomas, oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, yn hollol gywilyddus, wedi defnyddio’r arian a godwyd er mwyn talu i glirio’r tomenni. Gweithred ysgeler a chywilyddus yn erbyn pobol a chymuned Aberfan.
Efallai bod 50 mlynedd wedi mynd heibio, ond mae teimladau pobl yr un mor gryf nawr. Dw i am i’r cyswllt rhwng enw George Thomas a’r Rhondda cael ei thorri.
Cliciwch YMA er mwyn llofnodi’r ddeiseb
Pa enw fyddech CHI'n rhoi ar y dafarn? Rhowch eich syniad yn y bocs sylwadau, ac fe redwn pôl piniwn i ddod o hyd i'r enw mwyaf poblogaidd.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter