Dywedodd AoS y Rhondda Leanne Wood: “Dyma newyddion pryderus eto fyth i’r Rhondda. Rydym eisoes wedi dioddef rhai llithriadau mawr o domeni glo dros y deuddeng mis diwethaf, a’r un yn Tylorstown oedd y mwyaf difrifol.
“Mae’r symud tir diweddaraf hwn yn dystiolaeth bellach am gyflwr peryglus ein creithiau diwydiannol - creithiau y dylid bod wedi eu trin amser maith yn ôl.
“Mae’r ffaith fod tai a ffyrdd prysur yn agos iawn at y tip glo anniogel hwn yn Wattstown yn sicr o beri dychryn.
“Mae hyn yn tanlinellu’r angen i ofalu fod pob cymuned sydd dan gysgod tipiau glo yn cael eu diogelu. Maen nhw’n dweud y gallwn ddisgwyl mwy o dywydd garw oherwydd yr argyfwng hinsawdd, felly efallai na fydd yr hyn ddywedwyd oedd yn ddiogel ddegawdau’n ôl n ddiogel bellach.”
Os ydych eisiau helpu i ail-ethol Leanne yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf, cliciwch ar y ddolen hon.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter