Mae Aelod Senedd y Rhondda yn galw ar Lywodraeth y DG i dalu’r bil am wneud tipiau glo yn ddiogel.
Gwnaeth Leanne Wood yr alwad wedi derbyn llythyr ar y cyd gan Brif Weinidog Llafur Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Torïaidd Cymru am ddyfodol tipiau glo yn dilyn llithriadau yn gynharach eleni.
Ym mis Chwefror, achosodd glaw trwm i nifer o dipiau go lithro, a’r un yn Tylorstown oedd y mwyaf difrifol. Nid yw wedi ei glirio eto.
Dywed yr ohebiaeth gan y ddwy lywodraeth y sefydlwyd tasglu i adolygu’r modd y mae tipiau glo’n cael eu goruchwylio, ac y bydd Llywodraeth y DG yn talu’r bil am waith brys. Dywed Ms Wood nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell, er hynny.
“Er fy mod yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth y DG am dalu yn y tymor byr” meddai Ms Wood, “rhaid iddynt ymestyn y cynnig hwn i dalu’r holl gostau yn y dyfodol.
“Mae’r tipiau hyn yn waddol ein diwydiant glo pan dynnwyd y rhan fwyaf o’r cyfoeth o’r Rhondda, ac yn wir, o Gymru. Gwnaeth Llywodraeth y DG elw mawr o’r glo a gloddiwyd yn y Rhondda a chymunedau glofaol eraill yng Nghymru. Cloddiwyd y glo hwn ar gost enfawr i fywydau ac iechyd pobl. Ychydig iawn o’n cymunedau na wnaeth ddioddef o ganlyniad i’r trychinebau cysylltiedig â’r diwydiant glo.
“Dyw hi ond yn deg i Lywodraeth y DG dalu’r bil cyfan i wneud iawn am yr isgynnyrch hwn o’r diwydiant glo.
“Er mwyn diogelu’r tipiau glo hyn at y dyfodol rhag y math o dywydd eithafol a welsom ym mis Chwefror – a ninnau’n debygol o weld mwy o hyn yn y dyfodol oherwydd argyfwng yr hinsawdd – bydd angen cryn dipyn o waith.
“Bydd hyn yn gostus, ond mae’n rhaid ei wneud er mwyn diogelu’r cyhoedd. Mae angen i Lywodraeth y DG ddarparu’r holl arian angenrheidiol i sicrhau diogelwch ein pobl a rhoi tawelwch meddwl i’r bobl sy’n byw yng nghysgod y tipiau glo.
“Byddai unrhyw beth llai yn annerbyniol.”
Os hoffech chi gefnogi Leanne a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter