Mae Aelod Senedd y Rhondda wedi dweud fod angen gwneud mwy i greu cymdeithas gyfartal yng Nghymru wedi i adroddiad ddangos fod coronafeirws wedi effeithio’n anghymesur ar rai pobl.
Mae menywod, pobl BAME, pobl ifanc, yr anabl a phobl ar incwm isel oll wedi dioddef mwy yn sgil y pandemig corona yn ôl adroddiad Cyflwr y Wladwriaeth diweddaraf gan Chwarae Teg.
Er bod yr adroddiad wedi dangos bod bwlch y rhywiau wedi culhau o 14.5% i 11.6%, mae’n dangos fod menywod hefyd ddwywaith yn fwy tebygol na dynion o fod yn weithwyr allweddol yng Nghymru ac i deimlo effaith sectorau yn cau a busnesau yn mynd i’r wal. Canfu’r adroddiad hefyd fod diweithdra yn gwasgu’n drymach ar fenywod, gyda 5% yn fwy tebygol o fod wedi colli eu gwaith oherwydd Covid-19 o gymharu â dynion.
Canfu’r adroddiad hefyd fod gwaith di-dâl yn fwy tebygol o gael effaith ar fenywod. Gyda chyfrifoldebau gofal plant a dysgu gartref fel arfer yn disgyn arnynt hwy. Cadarnhawyd hyn yn ffigyrau’r adroddiad sy’n dangos fod menywod o hyd bedair gwaith yn fwy tebygol o fod yn economaidd anweithredol oherwydd dyletswyddau domestig di-dâl na dynion - 26% o gymharu â 6.5%.
Dywedodd Leanne Wood AoS, sy’n llefarydd y blaid dros Gyfiawnder a Chydraddoldeb, fod coronafeirws eisoes wedi gwaethygu anghydraddoldebau dwfn mewn cymdeithas. “Mae’r adroddiad rhagorol hwn yn datgelu’r anghydraddoldeb dwfn a wynebwn o hyd yng Nghymru yn 2021,” meddai Leanne. “Dylai’r driniaeth annheg y mae pobl yn wynebu oherwydd eu rhywedd, lliw eu croen, oedran, cefndir neu anabledd fod wedi ei daflu i fin sbwriel hanes erbyn hyn. Yn anffodus, mae coronafeirws wedi gwthio’r frwydr dros gydraddoldeb yn ôl ymhellach fyth.
“Rhaid i bawb mewn grym, yn enwedig y Llywodraeth Lafur, ymdrechu’n galetach fyth i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd hwn. Mae pob plentyn sy’n prifio yng Nghymru yn haeddu cyfle cyfartal mewn bywyd, ond nid felly y mae pethau ar hyn o bryd.
“Aeth tair blynedd heibio ers i’r Llywodraeth Lafur gyhoeddi eu bwriad clodwiw o beri bod Cymru yn arwain y byd o ran cydraddoldeb y rhywiau, ond fel gyda chymaint o’u targedau, nid yw’r canlyniadau cystal â’u geiriau teg. Dyw hyn ddim yn ddigon da, a rhaid ymdrechu’n galetach fyth.”
Os ydych eisiau helpu i ail-ethol Leanne yn etholiadau’r Senedd eleni, cliciwch ar y ddolen hon.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter