Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi herio’r Prif Weinidog ynghylch nifer y plant a’r bobl ifanc ifanc sy’n aros yn rhy hir i gael mynd at wasanaethau iechyd meddwl.
Dywedodd Leanne Wood, dros y flwyddyn a aeth heibio, fod rhestri aros am wasanaethau iechyd meddwl wedi cynyddu, gydag un o bob pump o blant yn gorfod aros dros un wythnos ar bymtheg am eu hapwyntiad cyntaf.
Dywedodd Leanne Wood fod y mater yn un o’r heriau pwysicaf oed dyn wynebu Cymru, a’i fod hefyd yn ffitio i batrwm ehangach o’r llywodraeth yn newid targedau pan fyddant yn methu cwrdd â hwy er mwyn osgoi craffu.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood:
“Llynedd, dywedodd y Prif Weinidog fod y llywodraeth yn canoli ei ymdrechion ar leihau amseroedd aros. Fodd bynnag, dros y flwyddyn a aeth heibio, gwaethygu wnaeth amseroedd aros am GIMPPhI.
“Yn ôl ym mis Mawrth , yr oedd 87% o blant a phobl ifanc yn aros llai na mis am apwyntiad. Nawr mae’r ffigwr i lawr i 45%.
“Yn ôl ym mis Mawrth , doedd yr un plentyn na pherson ifanc yn aros yn hwy na 16 wythnos am yr apwyntiad cyntaf hwnnw; nawr, mae bron i 1 o bob 5 o blant yn gorfod aros. Dyw hyn ddim yn swnio fel canlyniad ymgyrch i leihau amseroedd aros.
“Mae Plaid Cymru eisiau gweld gwella’r gwasanaeth hwn, ac i blant a phobl ifanc gael mynediad iawn at y gwasanaethau mae arnynt eu hangen.”
Os ydych yn cytuno â'r Leanne, cliciwch y ddolen hon. Diolch.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter