Mae AC y Rhondda Leanne Wood wedi galw am newid sylfaenol mewn diagnosis canser yng Nghymru wedi i ymchwil ddod i’r amlwg sy’n cysylltu diagnosis hwyr ag amddifadedd.
Mae Macmillan Cancer Support ac Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Gymreig Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi casglu ynghyd ffigyrau sy’n dangos fod y cyfnod pryd mae diagnosis o ganser yn cael ei roi yn amrywio o le i le.
Dengys data a ddarparwyd gan Rwydwaith Clystyrau’r Meddygon Teulu, rhwng 2011 a 2015, fod bron i un o bob pump o bobl (19 y cant cent) â chanser yn y clystyrau hyn yng Nghwm Taf wedi cael diagnosis yn y cyfnod hwyraf - cyfnod 4 - o gymharu â 13 y cant o bobl yng nghlystyrau Powys.
Meddai AC y Rhondda Leanne Wood: “Mae’r canlyniadau hyn yn annerbyniol. Gwyddom oll mai diagnosis cynnar yw’r allwedd i oroesi canser. Yr hyn mae’r ffigyrau hyn yn ddweud wrthym yw bod gennych lai o siawns o oroesi canser os ydych yn byw yn y Rhondda nac os ydych yn byw mewn ardaloedd cyfoethocach fel Sir Fynwy neu Fro Morgannwg.
“Nid yw hon yn sefyllfa yr wyf i’n barod i’w goddef. Dylai’r gwasanaeth a ddarperir fod cystal waeth lle’r ydych yn byw yng Nghymru.
“Byddaf yn cyflwyno sylwadau cryf ar ran pobl yn y Rhondda i holi pam fod hyn yn bod. Byddaf hefyd yn ceisio atebion ynghylch yr hyn sydd angen ei wneud i wella’r sefyllfa.”
Ychwanegodd Leanne: “Mae’n werth nodi fod y ffigyrau hyn yn cyfeirio at amser cyn yr hwb ariannol am ganolfannau diagnosis canser ychwanegol a sicrhawyd gan Blaid Cymru o ganlyniad i’n bargen ar y gyllideb gyda’r Llywodraeth Lafur.
“Roedd hyn yn gam yn y cyfeiriad iawn ond mae mwy y gellir ei wneud i wella diagnosis a siawns pobl o guro’r clefyd ofnadwy hwn. Byddaf yn pwyso am well cyfleusterau yn yr etholaethau hynny lle mae’r ffigyrau yn wael.
“Byddai polisi iechyd arloesol Plaid Cymru o recriwtio a hyfforddi 1,000 o feddygon a 5,000 o nyrsys yn ychwanegol hefyd yn hwb i’r GIG yng Nghymru oherwydd ei bod yn anodd iawn yn aml cael apwyntiad i weld meddyg teulu yn nyddiau cynnar cael symptomau o ganser. Gallai’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru wneud mwy am hyn, ac fe ddylai wneud.”
Os ydych chi'n cefnogi Leanne ar hyn, beth am ymuno â Phlaid Cymru? Gallwch wneud hynny trwy glicio ar y ddolen hon. Diolch.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter