Credyd Cynhwysol
Leanne yn cefnogi pobl sy'n dioddef oherwydd Credyd Cynhwysol
Cymunedau Cymen
Bydd Plaid yn Tacluso'r Llefydd Llawn Llanastr
Gwell Rhwydwaith Beicio
Leanne i Weithio Dwywaith Caletach i Sicrhau Gwell Rhwydwaith Beicio i’r Rhondda
Mae Leanne Wood wedi ymrwymo i barhau i ymgyrchu dros llwybrau beicio newydd i’r Rhondda
Pwll Padlo Penygraig nawr ar AGOR
Roedd yn hollol anheg bod trigolion y Rhondda yn gorfod teithio'n bell er mwyn cael mynediad at chwarae dwr am ddim. Er cystal yw'r Lido ym Mhontypridd, mae'n anheg disgwyl i rieni sydd a sawl plentyn i wneud y swrne yna, ac os nad oes car gyda nhw, neu os nad oes modd iddynt fforddio arian bws, does gyda nhw ddim unrhyw ffordd rhad o ddiddanu'r plant yn ystod y gwyliau.
Dywedodd Leanne, dros flwyddyn yn ôl erbyn hyn ''Mae'r cyngor unwaith eto wedi dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw fwriad o ailagor pwll padlo Penygraig, ac felly does dim amdani ond i wneud hynny ein hunain, fel cymuned''.
Ac felly, wedi sawl cyfarfod cyhoeddus sefydlwyd grwp o drigolion Penygraig, o dan cadeiryddiaeth Cynghorydd Plaid Cymru Josh Davies i geisio gwthio'r maen i'r wal, a gnewud y freuddwyd o ail agor y pwll yn realiti. Am 10:30 y bore 'ma, 14 Awst 2017, fe agorodd gatiau'r pwll am y tro cyntaf ers pedair mlynedd.
Mae'r pwyllgor wedi llwyddo i wneud gwaith rhyfeddol yn ystod y flwyddyn diwethaf, a nawr, mae Pwll Padlo Penygraig yn agor.
Ydych chi'n fodlon ymuno gyda thîm Ffrindiau Parc Penygraig? Llewnch y ffurflen ar lein (dilynnwch y linc isod) neu galwch heibio i'r pwll i gael sgwrs gyda un o'n gwirfoddolwyr. Dilynwch y newyddion diweddaraf trwy fynd at eu tudalen Facebook.
Achub ein gwasanaethau Gofal Iechyd lleol
Mae symud arbenigwyr o Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant wedi ysgwyd pobl o bob rhan o Rhondda Cynon Taf.
Pleidlais Post
Hoffwch chi fod ar y tîm buddugol?
Ar draws y wlad mae mwy a mwy o bobl yn cofrestru ar gyfer pleidlais drwy’r post ac rwy'n ysgrifennu atoch i roi cyfle i chi i fod yn rhan o’r duedd hon.