Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru sy'n dod o'r Rhondda: "Dyma newyddion i'w groesawu gan rieni, disgyblion a'r hawl i gael addysg o'ch dewis ar draws Rhondda Cynon Taf.
"Ymgyrchodd rhieni'n effeithiol i wrthwynebu talu ac roeddwn i'n hapus i sefyll gyda nhw a Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Rh.C.T. yn erbyn yr awdurdod Llafur lleol.
"Sylweddolodd cabinet Llafur, er yn hwyr iawn yn y dydd, pa mor wenwynllyd oedd codi dros £500 ar rai teuluoedd er mwyn gadael i'w plant fynychu ysgol o'u dewis. Croesawaf y newid yn safbwynt y Cyngor, ond byddwn yn annog ymgyrchwyr i fod ar eu gwyliadwriaeth rhag i'r taliadau gael eu hailgyflwyno ar ôl etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai.
"Am y tro, carwn dalu teyrnged i bawb a heriodd yr awdurdod lleol Llafur hwn. Dyma wir fuddugoliaeth i rym gwerin gwlad."
Os ydych chi am gefnogi ymgyrch Leanne i ennill yn y Rhondda, cliciwch y ddolen hon.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter