Arweinydd Plaid Cymru yn Beirniadu'r Pwyslais ar Isadeiledd Lloegr yng Nghyllideb y DU

Shadowcabinetheadshot5small.jpg 

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood o'r Rhondda, wedi ymosod ar y Torïaid am ffocysu cyllideb y DU yn ormodol ar y buddsoddiad yn isadeiledd Lloegr gan anghofio systemau trafnidiaeth y cymoedd.

Dywedodd Ms. Wood, sy'n dibynnu ar reilffordd y cymoedd i deithio o'i chartref ym Mhenygraig i Fae Caerdydd, fod y bwlch yn lledu bob blwyddyn rhwng ansawdd trafnidiaeth gyhoeddus Cymru a Lloegr. Dywedodd Ms. Wood, "Tra bod Canghellor y DU yn cyhoeddi biliynau o bunnau ar gyfer HS2, HS3 a Crossrail, mae trydaneiddio rheilffyrdd y cymoedd yn dal i fod yn freuddwyd gwrach i deithwyr,

"Nid yw ein rhwydwaith teithio yng Nghymru'n addas i'r 21 ganrif. Wrth deithio rhwng Cwm Rhondda a Chaerdydd ar drenau sydd yn aml yn rhedeg yn hwyr neu yn orlawn i'r pwynt nes bod rhaid gadael teithwyr ar ôl ar y platfform, mae'n amlwg ein bod yn cael ein gadael ar ôl gweddill y DU.

"Dyna pam mae arnom angen Llywodraeth Cymru newydd a chryf i ymladd drosom bob cam o'r ffordd i sicrhau ein bod yn derbyn y gwelliannau cwbl angenrheidiol yn ein trafnidiaeth ynghynt, yn hytrach na hwyrach."

Os ydych am gefnogi ymgyrch Leanne, cliciwch yma.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.