Mae Aelod Cynulliad Y Rhondda Leanne Wood yn cynnal ei chymhorthfa cyngor budd-daliadau cyntaf yr wythnos hon.
Bydd y gymhorthfa ar gyfer pobl sydd â phroblemau neu bryderon am y budd-daliadau maent yn derbyn gan wladwriaeth y DU. Cynhelir y sesiwn yn Neuadd Lesiant Tylorstown rhwng 10.30yb a 12.30yh ddydd Gwener yma.
Dywedodd Ms Wood fod y cymorthfeydd yn ymateb i newidiadau dadleuol i'r system fudd-daliadau, a'r nifer cynyddol o bobl sy'n cael eu taliadau wedi eu hatal heb gyfiawnhad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn San Steffan.
"Rwy'n rhagweld mai dyma fydd y cyntaf o nifer o gymorthfeydd tebyg y byddaf yn eu cynnal," meddai Ms Wood.
"Hoffwn i petai dim angen gwasanaeth o'r fath yma, ond mae fy swyddfa yn derbyn llawer o alwadau ac ebyst gan bobl sydd â’u budd-daliadau’n cael eu hatal neu eu gostwng am resymau annealladwy.
"Mae'r bobl hyn yn aml mewn sefyllfa anobeithiol ac yn dod i ben diolch i trwy ewyllys da teulu, ffrindiau a banciau bwyd. Mae hynny'n annerbyniol.
"Mae'r galw am gyngor yn debygol o gynyddu oherwydd bod cyflwyniad Credyd Cyffredinol - fel y gwelsom mewn ardaloedd eraill - wedi bod yn broblematic. Mae’n siwr y bydd yr un problemau yn Rhondda Cynon Taf.”
Meddai Ms Wood: "Efallai na fyddwn yn gallu cynnig atebion pendant i broblemau pobl yn y fan a'r lle ond byddwn yn ymdrechu i ddarparu cymaint o atebion ag y gallwn a byddwn yn cyfeirio pobl at y ffynonellau cymorth cywir. Rydym hefyd eisiau bod ar gael i bobl sydd angen gwybod bod rhywun yno sy’n barod i ymladd eu cornel.
"Mae cymaint o bobl wedi cael profiadau gwael wrth ymdopi â’r newidiadau hyn, ac felly rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu darparu o leia rhywfaint o help."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter