Leanne yn cefnogi pobl sy'n dioddef oherwydd Credyd Cynhwysol
Mae toriadau’r llywodraeth Doriaidd i daliadau budd-daliadau wedi achosi caledi enbyd yma’n y Rhondda. Mae nifer cynyddol o bobl yn byw mewn tlodi ac yn fwy fwy dibynnol ar fanciau bwyd. Mae hyn yn annerbyniol. Nawr maent yn cyflwyno Credid Cynhwysol rydym yn disgwyl i’r sefyllfa waethygu i bobl ar fudd-daliadau.
Tra bod y pleidiau eraill – fel y Blaid Lafur – yn cefnogi cynlluniau llymder y toriaid, roedd Plaid Cymru’n sefyll yn gadarn yn erbyn y toriadau, oherwydd eu heffaith ar y tlotaf yn ein cymuned. Byddwn ni wastad yma yn sefyll gyda’r bobl, felly os oes angen cymorth neu gyngor ar eich budd-daliadau, cysylltwch gyda ni. Byddwn yn gweithio gyda mudiadau eraill i’ch cefnogi wrth ymladd yn erbyn penderfyniadau a chamgymeriadau andwyol i’ch incwm.
Ffoniwch y swyddfa ar 01443 681420 neu ebostiwch [email protected]
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter