Mae AC y Rhondda Leanne Wood wedi dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru wedi i luniau ddod i’r amlwg o gerbyd trên gorlawn o blant ysgol yn ei hetholaeth.
Gwnaed y sylwadau wedi i lun gael ei ddangos o ddisgyblion Ysgol Gyfun Treorci wedi eu gwasgu’n dynn at ei gilydd ar eu ffordd i’r ysgol. Mae disgyblion sy’n methu cael lle yn y cerbyd yn wynebu dewis o aros am 30 munud am y trên nesaf, neu daith gerdded hirfaith.
Mewn trydariad wedi’i anelu at Weinidog Llafur yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, dywedodd Leanne bod y sefyllfa yn “annerbyniol.”
Dywedodd Ms Wood fod y gwasanaethau ar Lein y Cymoedd sydd yn aml mor orlawn yn tanlinellu’r angen i’r weinyddiaeth Lafur wneud yn siŵr nad yw’r fasnachfraint reilffyrdd nesaf i Gymru yn gwneud yr un camgymeriadau â’r un bresennol sydd wedi methu ag ateb y galw cynyddol.
“Mae gorlenwi yn broblem gyfarwydd i unrhyw un sy’n defnyddio Lein y Cymoedd,” medd Ms Wood. “Rwy’n gwybod nad yw hyn yn beth newydd i nifer o ddisgyblion Ysgol Gyfun Treorci sy’n dibynnu ar y gwasanaeth bob dydd. Pan fyddwch yn gweld plant wedi eu gwasgu at ei gilydd oherwydd bod y cerbydau mor llawn, mae’n achosi loes i bawb, yn enwedig i rieni’r plant.
“Mae rhieni, sy’n talu am y gwasanaeth hwn, yn ddig, a chyda phob cyfiawnhad. Mae rhai wedi cysylltu â mi am hyn. Rwyf wedi cael cyfarfodydd gydag Arriva Trains Wales yn y gorffennol lle cefais addewid y byddai trenau’r cymoedd yn dod yn fwy o flaenoriaeth o ran cerbydau ychwanegol. Yn anffodus, rydym yn dal i weld cerbydau sydd mor llawn fel eu bod yn anghyfforddus.”
Ychwanegodd: “Mae’r holl broblemau hyn ac anfodlonrwydd y cwsmeriaid sy’n dod yn sgil hyn yn tanlinellu’r angen am i’r fasnachfraint nesaf fod yn hollol fanwl gywir. Doedd gan y fasnachfraint flaenorol ddim darpariaeth o gwbl am dwf yn nifer y teithwyr na mwy o drenau, ac y mae hynny wedi cyfrannu llawer at y lle’r ydym yn awr. All y camgymeriad hwnnw ddim digwydd eto ac y mae’n rheidrwydd ar Lywodraeth Lafur Cymru i gael pethau’n iawn.”
Os ydych yn cytuno â'r Leanne, cliciwch y ddolen hon. Diolch.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter