Amddiffynnwch ein Sefydliadau Diwylliannol - Leanne

Plenary_pic_email_version_.jpg

Mae Aelod Senedd y Rhondda wedi ymbil am warchod y celfyddydau, gan ddweud eu bod yn un o bileri cymdeithas, ac na allwn fforddio eu colli.

Yr oedd Leanne Wood AS yn siarad yn ystod dadl Plaid Cymru yn y Senedd dan y teitl ‘Yr Heriau sy’n Wynebu Sectorau’r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth.’ Yr oedd rhan o’r ddadl yn galw ar y Llywodraeth Lafur yng Nghymru i ‘weithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, Tasglu Llawrydd Cymru a grwpiau a mudiadau eraill yn sector y celfyddydau a diwylliant i weithredu argymhellion yr adroddiad, 'Ail-gydbwyso ac Ail-ddychmygu: Strategaethau i Gefnogi gweithwyr Llawrydd yn y Celfyddydau a Pherfformio”.

Anogodd Llywodraeth Cymru hefyd i ‘ddefnyddio’r system gynllunio i gyfyngu a rheoli gallu adeiladau oedd yn cael eu defnyddio at ddibenion celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth cyn Deddf Coronafeirws 2020 i dderbyn caniatâd cynllunio am newid defnydd tra bod y pandemig yn parhau i gael effaith ar y gallu i ddefnyddio’r llefydd hynny at y diben y bwriadwyd hwy ar eu cyfer.’

Yn ystod ei haraith, tanlinellodd Ms Wood bwysigrwydd diwylliant mewn cymunedau, gan ddyfynnu enghraifft ddiweddar o’i chartref genedigol.

Dywedodd: “Dros y Sul,, cefais fy nhagio mewn trydariad o lun o 1965, yn gofyn i mi a allwn ddweud lle’r oedd y lleoliad o’r hyn oedd yn y cefndir. Teitl y ffotograff oedd ‘Band pres, Cymru’ ac fe’i cymerwyd gan Evelyn Hofer.

“Llun o fan o ganol y Rhondda ydoedd, sy’n dal i fynd, ar waetha’r heriau. A phan rannais y ffotograff ar fy nhudalen Facebook leol, daeth yn amlwg yn fuan iawn fod cenedlaethau o’r un teuluoedd wedi chwarae yn y band  hwnnw- roedd disgynyddion y dynion yn y llun yn dod at fy nhudalen - ac fe wnaethom hyd yn oed weld aduno aelodau teuluoedd o ganlyniad i rannu’r ffotograff.

“Felly mae llun a gymerwyd ar safle hen lofa ym 1965 yn fy nghartref ym Mhenygraig yn dweud cymaint am ein diwylliant, ein hanes, a phwysigrwydd cerddoriaeth yn hynny.

“Ac yn awr, wrth gwrs, mae’r bandiau hyn mewn trafferthion. Maent wedi bod yn chwarae ac yn creu cerddoriaeth ynghyd ers degawdau, wedi bod trwy amseroedd da a drwg ac yn awr gall eu dyfodol fod dan fygythiad gan Covid. Mae’r un peth yn wir am ein corau. Allan nhw ddim ymarfer.

“Wrth gwrs, rydym oll yn deall y rhesymeg, a bod yn rhaid rhoi blaenoriaeth i atal Covid 19 rhag lledaenu.

“Ond ddylen ni ddim colli golwg chwaith ar yr hyn mae pobl yn gael o greu cerddoriaeth– a beth sy’n digwydd pan na allwn gyrchu cerddoriaeth. Mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd, lle gallwn, o alluogi pobl i greu cerddoriaeth. Mae mor bwysig i gymaint o bobl.”

Ychwanegodd: “Yn llawer o’n cymunedau gwledig diwydiannol, efallai mai dim ond un canolfan diwylliannol sydd ar ôl. Mae cymaint o gymunedau wedi colli eu llyfrgell, mae tafarndai a siopau wedi cau hefyd, yn ogystal â chanolfannau cymunedol. Efallai mai’r dafarn neu glwb y gweithwyr yw’r unig leoliad sydd ar ôl. Os aiff hwnnw, dyna ben arni. Bydd cysylltiadau diwylliannol yn cael eu colli.

“Mae hynny’n wir hefyd am y lleoliadau hynny sy’n bwysig i bobl ifanc neu bobl hoyw - fel clybiau nos a lleoliadau cerddoriaeth hwyr y nos, sydd yn aml mewn llefydd amlwg yng nghanol trefi a dinasoedd. Mae angen gwarchod y lleoliadau hyn, fel y gall diwylliant y clybiau ddal ati wedi Covid, ac y gall pobl gael partïon mewn amgylchedd diogel, yn hytrach na chael eu denu i ddigwyddiadau eraill megis rêfs anghyfreithlon.”

Os hoffech chi gefnogi Leanne a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2020-10-09 11:20:33 +0100