Mae AC y Rhondda Leanne Wood wedi codi pryderon ynghylch clefyd marwol i gŵn y cafwyd achos ohono yn ei hetholaeth.
Galwodd Ms Wood ar Lywodraeth Cymru i roi cyfarwyddyd i berchenogion anifeiliaid anwes ar ôl i gi gael ei ddwyn i mewn i bractis milfeddygol yn Nhonypandy gyda Phydredd Alabama. Yr oedd y ci, fu am dro mewn coetiroedd gerllaw, yn un o’r llawer fu farw yng Nghymru eleni ar ôl i’r clefyd gael ei ganfod ynddo.
Clefyd cŵn yw Pydredd Alabama: ni wyddom beth sy’n ei achosi, a gall effeithio ar bob brîd, maint ac oedran. Os na chaiff ei ddarganfod yn ddigon cynnar, gall arwain at fethiant sydyn yr arennau a gall yr anifail farw.
Yn ystod cwestiynau i Leslie Griffiths AC, Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, dywedodd Leanne Wood AC: “Cafwyd adroddiad am achos diweddar o Bydredd Alabama, clefyd marwol i gŵn, mewn practis meddygol yn f’etholaeth i ar ôl iddo fod am dro mewn coedlan yn agos i dref Penygraig, lle’r wyf yn byw.
“Cymerwyd ci i bractis Tonypandy Clinig Milfeddygol Trefforest gyda’r briwiau sy’n gysylltiedig â Phydredd Alabama, ac fel yn achos llawer o gŵn sy’n cael y clefyd hwn, bu farw. O gofio nad yw gwyddonwyr yn gwybod beth sy’n achosi’r clefyd hwn, wyddan nhw ddim sut i’w drin, ac y mae llawer o berchenogion cŵn yn pryderu am y clefyd a nifer yr achosion a grybwyllwyd yn ddiweddar.
“Allwch chi roi unrhyw gyngor i’r perchenogion cŵn hynny yn y Rhondda a thu hwnt ynghylch yr hyn y gallant wneud i leihau’r risg y bydd eu hanifeiliaid anwes yn dal Pydredd Alabama? Ac a fedrwch chi gadarnhau fod y Llywodraeth yn mynd ati i wrthweithio’r clefyd hwn?”
Yn ei hateb, dywedodd Ms Griffiths AC: “Cefais drafodaeth gyda’r prif swyddog milfeddygol am Bydredd Alabama y bore hwn. Fel y dywedais, nid yw’n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, ond yn amlwg, rydym yn awyddus iawn i ddysgu o’r ymchwil sy’n cael ei gynnal.”
Ychwanegodd: “Dywedodd y prif swyddog milfeddygol fod mwy o achosion yn digwydd mewn ardaloedd corsiog gwlyb, ac y mae’n bwysig iawn yn y gaeaf, os ewch â’ch ci am dro mewn ardaloedd corsiog gwlyb, eich bod yn ei sychu’n drwyadl wedyn.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter