Mae AC y Rhondda Leanne Wood wedi diolch i bobl a gyfrannodd at gasgliad bwyd Nadolig i bobl ddigartref.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, sefydlodd Ms Wood bwynt casglu yn ei swyddfa yn y Porth i apêl Hamper Nadolig Adref a fydd yn awr yn dosbarthu parseli bwyd i bobl ddigartref mewn pryd ar gyfer Rhagfyr 25.
Elusen yw Adref fu’n darparu cefnogaeth i bobl ddigartref yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr ers 1990. Ymysg y nifer o focsys a bagiau o eitemau bwyd annarfodus a roddwyd i swyddfa Ms Wood yr oedd cryn swm o gynhyrchion iechydol merched - eitemau y mae merched digartref yn aml yn cael trafferth i’w fforddio.
Yn hytrach na rhoi rhodd o fwyd, rhoes un pâr eu taliad tanwydd gaeaf i Adref wedi gweld apêl Leanne ar gyfryngau cymdeithasol.
“Hoffwn ddiolch i’r holl bobl hael a gyfrannodd at gasgliad eleni i apêl Hamper Nadolig Adref,” meddai Leanne. “Gall y parseli bwyd hyn wneud gwir wahaniaeth y Nadolig hwn i rywun, neu ryw deulu, dan amgylchiadau anodd.
“Gall digartrefedd effeithio ar unrhyw un, ar unrhyw adeg. Mae’n wych fod cymaint o ewyllys da yn ein cymdeithas tuag at y sawl sydd heb lawer - yn enwedig adeg y Nadolig pan fo cymaint o bwysau i wario a bwyta i eithafion.
“Carwn hefyd ddiolch i’r pâr a roes eu taliad tanwydd gaeaf wedi darllen fy apêl ar gyfryngau cymdeithasol. Bydd eu siec i Adref yn gwneud gwir wahaniaeth y Nadolig hwn.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter