Mae Leanne Wood wedi diolch i bawb a roddodd fwyd a nwyddau hylendid i apêl i wneud hamperi i'r digartref.
Dywedodd AC y Rhondda bod pobl wedi dangos caredigrwydd anhygoel. Dyma’r casgliad mwyaf yn ei swyddfa etholaethol ym y Porth yn y tair blynedd y bu'n cefnogi'r apêl.
Defnyddiwyd y nwyddau i greu mwy na 100 o gewyll a mwy na 100 o fagiau rhodd a fydd yn cael eu ddosbarthu mewn pryd am y Nadolig gan yr elusen Adref sy'n cefnogi dynion, menywod, a phlant digartrefedd yn RCT a Merthyr. Rhoddodd yr elusen nifer o deganau hefyd i blant sy'n ddigartref neu mewn angen am dai.
Dywedodd Leanne: "Roeddwn yn hapus iawn gyda'r ymateb i’r apêl ddigartrefedd eleni. Mae llawer o bobl mewn trafferth ar hyn o bryd ond rhoddwyd llawer gan bobl i helpu’r rhai sydd mewn sefyllfaoedd gwaeth.
"Mae'n warthus bod cymaint o bobl yn ddigartref yng Nghymru. Dylai fod cartref gan bawb. Nes bod y broblem yma wedi ei datrys, bydd elusennau fel Adref a haelioni pobl yn amhrisiadwy.
"Bydd llawer o bobl ddigartref - gan gynnwys plant - yn awr yn cael anrheg Nadolig hyfryd oherwydd caredigrwydd dieithriaid. Mae hynny'n galonogol ac yn dangos bod pobl drugarog dros ben yn y Rhondda. "
Os ydych chi am gefnogi Leanne a Phlaid Cymru, cliciwch ar y ddolen ganlynol.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter