"Rwy'n edrych o gwmpas Cwm Rhondda gan wybod na fydd dim yn newid a dim yn gwella os daliwn i wneud yr un peth. Fy mlaenoriaeth i yw polisïau fydd yn creu swyddi, gwella ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a gwneud y Rhondda a Chymru yn well lleoedd i fyw ynddynt."
Fe’m ganwyd a’m magwyd yn y Rhondda. Ffurfiwyd fy ngwerthoedd yng nghymuned ddosbarth gweithiol Penygraig - y lle ddewisiais i fagu fy merch, yn yr un stryd lle y codwyd fy nhad a fi.
Cyn cael fy ethol fel Aelod Senedd Cymru, gweithiais fel swyddog prawf, swyddog hyrwyddo cymorth i ferched a thiwtor prifysgol. Cefais hefyd nifer o swyddi mewn ffatrïoedd o gwmpas Rhondda Cynon Taf gan gynnwys Bosch, Ferrero Roche, Sun Juice a Gainsborough Flowers ym Mhorth. Gweithiais yn rhan-amser ar ddesg dalu archfarchnad Gateway pan oedd y siop yn Nhonypandy.
Ers cael fy ethol fel Aelod o'r Senedd dros y Rhondda dw i wedi bod yn gweithio i wthio polisiau byddai'n dod â gwaith i'r Rhondda, ac y bydd yn gwella ein gwasanaethau cyhoeddus. Dw i hefyd wedi bod yn ymgyrchu i gadw swyddi a gwasanaethau yn y Rhondda, e.e. i gadw meddygfeydd a banciau ar agor. Dw i'n gweithio gyda chynghorwyr Plaid Cymru i sicrhau bod y Rhondda ddim yn cael ei hanwybyddu gan Gyngor RhCTaf.
Dw i’n benderfynol o wneud y newidiadau fydd yn gwella bywydau pobl y Rhondda ac yn creu cymunedau sydd yn llefydd gwell i fyw, i weithio ac i fagu teulu ynddo.
Os ydych yn cytuno y gallwn ni wneud yn well, ac yn gallu creu dyfodol sy'n rhoi gobaith i'n pobl ifainc tra'n cadw gwasanaethau ar gyfer ein pobl hŷn a phobl eraill sy'n dibynnu arnynt, cefnogwch fy ngwaith i fel AS dros y Rhondda.
Da chi, ymrwymwch i wneud hynny heddiw.
Oriel Pam Plaid? Yr arddegau Valleys Kids Gwaith
Os ydych am weld yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer y wefan hon, cliciwch yma.
Neu i ddarllen fy Hysbysiad GDPR, cliciwch yma.