Leanne yn Galw am Gynllun Tri-Phwynt i Fynd i’r Afael ag Anghydraddoldeb Cyfoeth ar hyd y DG

 MH_050716_Plaid_Cymru_021.JPG

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood heddiw wedi gwneud yr achos dros gynllun tri-phwynt i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb cyfoeth sydd yn bla ar y DG.

Daw ei galwad ar 'Dddydd Mercher y Penaethiaid Porthiannus' 4 Ionawr pryd y bydd penaethiaid prif gwmniau wedi ennill mwy na chyflog cyfartalog y DG o £28,200 erbyn canol dydd.

Dywedodd Leanne Wood y dylai’r Prif Weinidog wneud y canlynol:

- cyflwyno cap ar gyflogau rhengoedd uchaf y sector cyhoeddus
- deddfu ar uchafswm cyflog
- pasio Mesur Tegwch Economaidd er mwyn blaenoriaethu’r ardaloedd mwyaf difreintiedig ar gyfer buddsddi mewn seilwaith.

Ychwanegodd fod anghydraddoldeb cynyddol yn cryfhau’r achos dros i Gymru gael mwy o bwerau economaidd er mwyn amddiffyn ei chymunedau rhag penderfyniadau a gymerir gan y Torïaid yn San Steffan.

Meddai arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood:

"Mae’r newyddion hwn yn amlygu anghydraddoldeb dybryd y wladwriaeth Brydeinig.

"Gyda phecynnau cyflog uwch-swyddogion allan o reolaeth, rhaid i’r Prif Weinidog weithredu ar unwaith i fynd i’r afael â’r broblem hon sydd yn gwaethygu tlodi a theimladau o ddicter ymysg llawer yn ein cymunedau.

"Mae Plaid Cymru eisiau gweithredu cynllun tri-phwynt i helpu i ail-gydbwyso’r DG o ran cyfoeth unigol a daearyddol.

"Byddai cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus yn helpu i gau’r bwlch rhwng y sawl sy’n cael y cyflogau uchaf ac isaf a delir yn ein hawdurdodau lleol a chyrff eraill, gan sicrhau cyflogau tecach yn gyffredinol. Rydym wedi pwyso am hyn yn ein Cynulliad Cenedlaethol.

"Byddai cyflwyno uchafswm cyflog yn mynd i’r afael â thâl cynyddol i benaethiaid byrddau trwy gysylltu’r rhai ar y cyflogau isaf mewn sefydliad â’r rhai ar y cyflogau uchaf. Felly byddai’n rhaid cyfatebu codiadau cyflog canrannol ar y brig â chodiadau cyflog ar waelod y raddfa. Byddai hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb cyflog cynyddol a geir mor aml mewn rhai sefydliadau, nid yn unig rhyngddynt.

"Yn drydydd, bu Plaid Cymru yndadlau ers tro byd am gyflwyno Mesur Tegwch Economaidd i’r DG gyda’r nod o flaenoriaethu’r ardaloedd mwyaf difreintiedig am fuddsddi mewn seilwaith. Byddai hyn yn cynhyrchu swyddi lleol, yn hybu twf economaidd ac yn galluogi ardaloedd y tu allan i Lundain a De-Ddwyrain Lloegr ffynnu.

"Pan ddaeth y Prif Weinidog i’w swydd ym mis Gorffennaf, addawodd greu 'gwlad sy’n gweithio i bawb.' Mae llwybr economaidd bresennol llywodraeth Dorïaidd y DG y cryfhau mwy ar economi sy’n gweithio i nifer fechan yn unig.

"Dyna pam fod yn rhaid i bobl yng Nghymru gael mwy o reolaeth dros ein materion ein hunain, pam y dylem gael mwy o bwerau economaidd – i’n galluogi i sefyll ar ein traed ein hunain ac i osgoi gorfod dioddef polisïau ac arferion gwleidyddol o du gwleidyddion San Steffan nad ydynt yn malio dim am fuddiannau Cymru."

Os ydych chi’n cytuno â Leanne ynglŷn ag ail-gydbwyso cyfoeth yn y DU, beth am ymuno â Phlaid Cymru trwy glicio ar y ddolen hon?

 

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.